Gallai rhywun rydych chi'n ei adnabod fod yn gyfatebiaeth berffaith i glaf sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn. Lledaenwch y neges cliciwch yma.

Rhowch 'yr anrheg orau' i rywun y Nadolig hwn drwy gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru

 

Mae mam newydd a gafodd drallwysiad gwaed a achubodd ei bywyd yn ystod genedigaeth, yn annog cymunedau ar draws Cymru i roi'r 'rhodd orau' y Nadolig hwn, trwy gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru.

Profodd Stacey Fordham Gray, cyn-roddwr gwaed ei hun, gymhlethdodau yn ystod genedigaeth ei merch Millie, a chafodd drallwysiad gwaed a achubodd ei bywyd.

 

Dewch o hyd i’ch sesiwn rhoi gwaed agosaf

Dechrau ar eich taith achub bywyd

Meddai Stacey, "Fel y rhan fwyaf o famau sydd yn rhoi genedigaeth am y tro cyntaf, roeddwn wedi disgwyl i fy stori gael ei llenwi â thechnegau anadlu a goleuadau meddal, nid un lle y buaswn i angen tîm o ddoctoriaid a nyrsys.

"Ar ôl cael trallwysiad gwaed, dydw i ddim yn gallu rhoi gwaed fy hun rhagor, ond byddaf yn parhau i gefnogi Gwasanaeth Gwaed Cymru drwy rannu fy stori. Gobeithio y bydd hyn yn helpu mwy o bobl i ddeall y gwahaniaeth mae'n ei wneud, a pham y dylen nhw roi gwaed eu hunain.

"Heb haelioni rhoddwyr, fuaswn i ddim wedi bod yma i ddathlu pen-blwydd cyntaf Millie. Byddaf yn ddiolchgar am byth i'r dieithryn llwyr hwnnw a roddodd eu gwaed ac a achubodd fy mywyd."

Stacey Fordham Gray

Cafodd ymrwymiad Stacey i Wasanaeth Gwaed Cymru ei gryfhau ymhellach ar ôl i'w thad gael diagnosis o ganser bedair wythnos yn unig ar ôl ei cherdded i lawr yr eil. Aeth Stacey i bob apwyntiad yng Nghanolfan Ganser Felindre gyda'i thad, ond dirywiodd ei gyflwr a phum mis yn ddiweddarach, bu farw.

Dywedodd Stacey, "Ar ôl colli fy nhad i ganser, fe nes i barhau i roi gwaed nes fy mod i ei angen fy hun. Er nad ydw i'n gallu rhoi gwaed rhagor, rydw i ar Gofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru o hyd, ac yn obeithiol y gallaf fod y dieithryn hwnnw hefyd, drwy roi mêr fy esgyrn ar gyfer rhywun sy'n ymladd canser y gwaed."

Dydy helpu'r rheini sydd â chanser y gwaed erioed wedi bod yn haws.

17-30 oed? Cofrestrwch heddiw

Bob blwyddyn, mae dros 2,000 o bobl yn y DU a 50,000 o bobl ar draws y byd yn cael eu diagnosio gyda chanser y gwaed, ac sydd angen trawsblaniad mêr esgyrn i achub eu bywydau. Ar hyn o bryd, dim ond saith o bob deg claf ar draws y DU sy'n dod o hyd i rywun sy’n cydweddu â nhw.

I gleifion sydd angen gwaed, fel yr oedd Stacey, rhodd fydd 'yr anrheg orau' maen nhw'n ei derbyn.

Alan Prosser, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru bellach yn paratoi i wynebu pwysau'r gaeaf, ac yn gobeithio y bydd ei ymgyrch Nadolig, sef 'yr anrheg orau', yn helpu i godi ymwybyddiaeth am y gwahaniaeth mae rhoi gwaed, platennau a mêr esgyrn yn ei wneud. Mae'r Gwasanaeth yn darparu gwaed a chynnyrch gwaed sy'n achub bywydau i 20 o ysbytai ar draws Cymru a phedair awyren Ambiwlans Awyr Cymru i'w defnyddio mewn argyfwng. Mae’n recriwtio ac yn cefnogi gwirfoddolwyr mêr esgyrn sy’n cydweddu â chleifion canser hefyd, wrth iddynt roi mêr esgyrn a allai achub bywydau.

Aeth Alan ymlaen i ddweud, "Mae gan waed a chynnyrch gwaed oes silff gymharol fyr, felly mae ysbytai eu hangen yn gyson, 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, gan gynnwys yn ystod gwyliau banc fel y Nadolig a Dydd Calan, i helpu i gefnogi cleifion ac i achub bywydau ledled Cymru.

Mae'n hanfodol bod y Gwasanaeth wedi ei baratoi, felly rydyn ni'n estyn allan at ein cymunedau ar draws Cymru i ofyn iddyn nhw roi rhodd a allai achub bywydau y Nadolig hwn a thros gyfnod y Gaeaf, neu gofrestru i fod ar ein cofrestr mêr esgyrn."

Gwnewch rywbeth anhygoel yn ystod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd eleni. Rhowch yr anrheg orau i rywun, rhowch waed ac, os ydych chi rhwng 17-30 oed, ymunwch â Chofrestr Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru naill ai pan fyddwch yn rhoi gwaed neu drwy ofyn am becyn swab ar-lein.